作曲 : Traditional Y mae’r haf yn hir yn dyfod Meddai geneth fechan glaf Pryd mae’r gwanwyn yma i ddarfod Pryd fy mam y daw yr haf? Dweud o hyd y mae ’nghyfeillion Dyma’r unig gysur a gâf “Cwyd dy galon eneth dirion Mi fendi di pan ddaw yr haf.” Oes rhyw arwydd fod hi’n c’nesu? Oes briallu hyd y nant? Ydi’r adar bach yn nythu Ym mieri gwyllt y pant? Dweud o hyd y mae ’nghyfeillion Dyma’r unig gysur a gâf “Cwyd dy galon eneth dirion Mi fendi di pan ddaw yr haf.” Chlywodd neb y gôg eleni Ar hen dderwen fawr y ddôl Ond i honno ddechre canu Haws it wenu ar ei hôl. Ond pan aeth y dyddiau heibio Dyma’r unig gysur a gâf Ar ei beddrod yn blodeuo Y gwelir heddiw flodau’r haf.