作曲 : Traditional Y deryn pur a'r adain las Bydd i mi'n was dibrydar O! brysur brysia at y ferch Lle rhois i'm serch yn gynnar Dos di ati, dywed wrthi Mod i'n wylo'r dwr yn heli Mod i'n irad am ei gwelad Ac o'i chariad yn ffaelu a cherddad, O! Duw faddeuo'r hardd ei llun Am boeni dyn mor galad! Pan o'wn yn hoenus iawn fy hwyl Ddiwrnod gwyl yn gwylio Canfyddwn fenyw lana' rioed Ar ysgafn droed yn rhodio. Pan y'i gwelais syth mi sefais Yn fy nghalon mi feddyliais Wele ddynes lana'r deyrnas A'i gwên yn harddu'r oll o'i chwmpas Ni fynnwn gredu un dyn byw Nad oedd hi ryw angyles!