O hawdd yw dechrau'r dydd yn llawn gobeithion Ond haws yw agor drws yr holl amheuon A phob un bwriad sydd yn dechrau'n gyfiawn Ond buan daw'r arferion drwg i'w dwyn O lle dw i'n mynd o'i le? Mae'n amser ffeindio be Sy'n fy arwain ar gyfeiliorn Pe cawn Dewisiwn y trywydd iawn A byw pob dydd yn llawn Pe, pe cawn Fe ddysgwn i y ddawn I ddilyn y trywydd iawn Pe, pe cawn A mae'r holl arwyddion estron yn fy nrysu Fy nhywys i ar hyd yr un hen lôn O Duw a wyr os fyddai byth yn dysgu Sut i gadw draw o'r llwybr ffôl Os pwrpas gofyn pam? Mae'n rhaid 'mi neud fy rhan Cyn i amser ei ddinistrio Pe cawn Dewisiwn y trywydd iawn A byw pob dydd yn llawn Pe, pe cawn Fe ddysgwn i y ddawn I ddilyn y trywydd iawn Pe, pe cawn O lle dw i'n mynd o'i le? Mae'n amser ffeindio be Sy'n fy arwain ar gyfeiliorn Pe cawn Dewisiwn y trywydd iawn A byw pob dydd yn llawn Pe cawn Fe ddysgwn i y ddawn I ddilyn y trywydd iawn Pe, pe cawn Dewisiwn y trywydd iawn A byw pob dydd yn llawn Pe, pe cawn